Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau Statudol sydd ag Adroddiadau Clir

8 Mehefin 2015

 

 

CLA535 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2015

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y weithdrefn a'r terfynau amser mewn cysylltiad â phenderfynu ceisiadau penodol rhagnodedig sy'n cael eu cyfeirio at Weinidogion Cymru ac apelau lle mae'r materion hyn i'w hystyried ar sail sylwadau ysgrifenedig.

 

Maent yn dirymu ac yn disodli, gyda rhai newidiadau, Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Atgyfeiriadau ac Apelau) (Gweithdrefn Sylwadau Ysgrifenedig) (Cymru) 2003, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau trosiannol ac arbed.

 

 

 

CLA536 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) (Diwygio) 2015

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012.  Caiff y diwygiadau manwl eu hegluro yn Nodyn Esboniadol y Gorchymyn.

 

 

 

 

CLA537 - Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) (Diwygio) 2015

 

Gweithdrefn:  Negyddol

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) (Cymru) 2012 ("y prif Reoliadau").

 

Mae rheoliad 2 (2) a (3) yn diwygio rheoliad 12 o'r prif Reoliadau drwy ddileu'r cyfyngiad amser o chwe mis ar gyfer cyflwyno apêl yn dilyn methiant un awdurdod cynllunio lleol i benderfynu ar gais am ganiatâd adeilad rhestredig o fewn y cyfnod penderfynu a ragnodir yn rheoliad 3 (5) o'r prif Reoliadau.

 

Mae rheoliad 2(4) yn mewnosod darpariaeth yn y prif Reoliadau yn rhagnodi cyfnod ychwanegol o bedair wythnos at ddibenion adran 20A'r Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990.

 

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaethau trosiannol.